Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Hydref 2018

Amser: 09.00 - 10.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5131


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Llyr Gruffydd AC

Mike Hedges AC

Jane Hutt AC

Nick Ramsay AC

Helen Mary Jones AC

Tystion:

Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor

Dr Helen Rogers, Prifysgol Bangor

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Georgina Owen (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Christian Tipples (Ymchwilydd)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Yn dilyn ei etholiad fel Cadeirydd dros dro ar 3 Hydref 2018, croesawodd Llyr Gruffydd AC yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Neil Hamilton AC. Roedd Llyr Gruffydd AC yn dirprwyo ar ran Steffan Lewis AC.

1.3 Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   PTN1 - Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 11 Hydref 2018

</AI3>

<AI4>

3       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Sesiwn Dystiolaeth 3

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Edward Jones a Dr Helen Rogers o Brifysgol Bangor ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

</AI4>

<AI5>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI5>

<AI6>

5       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI6>

<AI7>

6       Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

</AI7>

<AI8>

7       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

</AI8>

<AI9>

8       Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer recriwtio dau aelod anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a chytunodd arno.

</AI9>

<AI10>

9       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Dull craffu

9.1 Cymerodd y Pwyllgor y camau a ganlyn:

·         nododd y bydd y sesiwn dystiolaeth gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bellach yn cael ei chynnal ar 7 Tachwedd 2018;

·         cytunodd ar enwau'r Aelodau a fydd yn mynd i'r cyfarfod ar 15 Tachwedd ynghylch asesiadau effaith yn y gyllideb. Cynhelir y cyfarfod hwnnw ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a

·         chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod ychwanegol at ddibenion trafod ei adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

</AI10>

<AI11>

10   Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig: Datganoli toll teithwyr awyr i Gymru

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>